Y Mentrau Iaith


Sut y gall strategaeth economaidd a chynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru:

 

1. greu twf economaidd sy'n fwy cynhwysol ac sydd o fudd i bobl a lleoedd fel ei gilydd ledled Cymru;

 

 

Credwn fod lles y Gymraeg yn gysylltiedig efo ffyniant cymunedau ac unigolion. Rydym yn awyddus fod unrhyw strategaeth economaidd a chynllun cyflogadwyedd yn ystyried y canlynol o ran y Gymraeg;

 

 

Allfudiad

Yn ôl gwaith ymchwil gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2010) ar ddemograffeg flynyddol siaradwyr Cymraeg, mae ffactorau sydd yn gwanhau sefyllfa’r Gymraeg yn deillio o ddiffyg cyfleoedd gwaith, yn benodol gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd yn ei dro yn arwain at sefyllfa o allfudo o Gymru. Yn ôl astudiaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg (2010) amcangyfrifwyd bod colled flynyddol o 3,000 o siaradwyr Cymraeg.

 

"Around a third of 1991’s 15-year-old Welsh-speakers had migrated to England by 2001.”

            (Delyth Morris (2010) ‘Welsh in the 21st Century’, Cardiff; University of Wales Press).

 

Colli Iaith a cholli sgiliau

 

Oherwydd y diffyg cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg ar ol byd ysgol mae nifer chêl o bobl ifanc (enwedig lle nad oes ganddynt cyswllt naturiol efo’r Gymraeg )yn colli eu gallu i siarad Cymraeg ar ol gadael addysg. Gallwn weld hyn o’r graff isod;

 

% yn gallu siarad Cymraeg trwy Gymru fesul oed

- Cyfrifiad 2011

 

 

Diffyg Gwasanaethau

Ar un llaw rydym yn dioddef allfudiad brawychus o bobl ifanc sydd yn medru’r Gymraeg tra ar y llaw arall rydym yn dioddef o ddiffyg gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.  Mae hyn yn ein rhwystro i fyw ein bywydau beunyddiol trwy gyfrwng y Gymraeg. Eto credwn mai dyma ble mae un o brif wendidau ac un o brif obeithion y Gymraeg yn gorwedd.

 

Y Sefyllfa Bresennol

Ar hyn o bryd nid oes cynllun penodol yn ymwneud a’r Gymraeg sydd yn dylanwadu ar ffactorau megis mewnfudo, allfudo a gwerth economaidd y Gymraeg.

O’r wybodaeth yr ydym wedi casglu drwy weithio yn gymunedol ar draws Cymru, mae sawl her yn bodoli ar hyn o bryd sydd angen eu taclo:

 

·                     Yn hanesyddol mae’r Gymraeg wedi dioddef o ddiffyg statws economaidd

·                     Nid yw’r sgil o siarad Cymraeg yn cael ei gydnabod gan ganran uchel o gyflogwyr

·                     Mae siaradwyr Cymraeg ifanc yn gadael Cymru a’u bröydd genedigol i chwilio am waith

·                     Mae’ rhai sydd yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg yn colli’r iaith oherwydd diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

·                     Does dim trosglwyddo iaith yn digwydd o fewn nifer o deuluoedd oherwydd diffyg statws i’r Gymraeg.

·                     Mae anhawster cyson i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg

·                     Nifer isel iawn o ddysgwyr yn dod yn rhugl yn y Gymraeg

 

 Mae datblygiadau diweddar o ran y Gymraeg wedi rhoi statws i’r iaith. Bydd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn cryfhau’r  ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwn y Gymraeg. Gwelwn hwn fel gyriant i’r angen am Farchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg fydd yn cyplysu sgiliau efo anghenion gwasanaeth. 

 

Y Gobaith

 

    Credwn felly dylsai’r strategaeth economaidd a chynllun cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru: ystyried creu cynllun  farchnad lafur Cymraeg.  Bydd yn creu twf economaidd sy'n fwy cynhwysol ac sydd o fudd i bobl a lleoedd fel ei gilydd ledled Cymru gan fydd yn ;

 

·                     Datblygu’r Gymraeg fel catalydd economaidd

·                     Datblygu’r Gymraeg fel cyfrwng i ddatblygu economaidd ac adfywiol

 

Gwneir hyn drwy;

 

·                     Adnabod a mesur y galw am wasanaethau Cymraeg

·                     Cyplysu’r angen am wasanaeth efo sgiliau, yn ogystal ac atgyfodi cynllun Llwybro

·                     Ehangu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg

·                     Cyplysu’r angen efo cyfleoedd gwaith a hyfforddiant

·                     Adnabod a hwyluso cyfleoedd economaidd newydd oherwydd yr angen am wasanethau Cymraeg

·                      Adnabod a hwyluso cyfleoedd economaidd newydd trwy cyfrwng y Cymraeg

 

 

2.   lleihau cyfran y bobl sydd ag incwm isel yng Nghymru;

 

Profiad y Mentrau

 

Mae llawer o Fentrau yn cyffwrdd ar y fath yma o waith o greu marchnad lafur Cymraeg ei hiaith. Mae’r Mentrau yn cyflogi cannoedd i gynnig gwasanaethau Cymraeg neu gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg sydd yn ymateb i anghenion lleol, e.e.

 

·                     Cynlluniau gofal plant

·                     Hyfforddiant Awyr Agored

 

mae nifer yn cael ei sefudlu fel Mentrau Cymdeithasol newydd;

 

·                     Siopau Llyfrau Cymraeg

·                     Cwmni Cyfieithu

·                     Meithrinfeydd

 

Mae cyfleoedd yma na fuasai’n bydoli heblaw am y Gymraeg yn cynorthwyo i leihau'r gyfran y bobl sydd ag incwm isel.

 

Ardaloedd % uchel

 

Yn anffodus mae nifer o ardaloedd sydd a % uchel o siaradwyr Cymraeg hefyd yn ardaloedd cymharol dlawd e.e. mae’r cyfartaledd cyflog yng Ngwynedd, sef £350 yr isaf yng Nghymru. Mae diffyg ffyniant yn yr ardaloedd hyn yn arwain yn anorfod at allfudo o bobl ifanc, sydd yn gwanhau y Gymraeg yn sylweddol.

 

Denu gwaith a datganoli i’r Gogledd Orllewin.

 

Mae gwirioneddol angen lleoli mwy o waith y Llywodraeth yn ardaloedd tebyg. Rydym yn croesawu'r buddsoddiad sydd wedi dod i Gaerfyrddin ond mae’r Gogledd orllewin wedi ei siomi yn enfawr yn ddiweddar drwy ddiffyg denu’r Awdurdod Cyllid Cymru Coleg neu greu Ysgol  Feddygol ym Mangor. 

 

Credwn fod angen gweld y perthynas rhwng yr ardaloedd Cymraeg a gweddill y wlad fel un cyd-ddibynnol lle fedrwn ddatblygu farchnad lafur budd  yn cryfhau’r cymunedau Cymraeg a rhwydweithiau Cymraeg ar draws y wlad.

 

 

3.    Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng gwahanol grwpiau o bobl;

 

Credwn buasai gweithredu cynllun Farchnad Lafur Cymraeg yn mynd i’r afael efo anghydraddoldebau gan fuasai yn cynnig cyfle i’r rhai sydd â Chymraeg fel iaith a sgil gall ei ddefnyddio i gael hyd i waith. Nid yw hyn yn digwydd yn ddigonol ar hyn o bryd.

 

Credwn yn gryf hefyd fod angen i bobol nad ydynt yn rhugl yn y Gymraeg ond sydd ar sgiliau perthnasol fel arall gallu myned hyfforddiant iaith ddwys er mwyn ei neud yn gymwys i gynnig gwasanaeth yn y Gymraeg.

 

 

4. Ffyrdd o gynyddu sicrwydd gwaith yng Nghymru;

 

Trwy gynyddu’r nifer o wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg a gweithleoedd sydd yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith weithredol rydym yn sicrhau mwy o gyfleoedd gwaith yng Nghymru na fuasai’n bodoli fel arall.

 

Credwn bydd yn cyfrannu yn helaeth i leihau allfudiad o bobl ifanc

 

Rhoi cyfle i rai sydd a’r Gymraeg fel iaith iddynt ei ddefnyddio i ganfod gwaith lle nad yw yn digwydd ar hyn o bryd.

 

Tu hwnt i waith y mentrau mae angen ystyried yr egwyddorion yma i sicrhau sut bydd rhai o strategaethau’r Llywodraeth yn cael ei gweithredu ee

 

Cymraeg 2050 (Strategaeth y Gymraeg 2017)

 

Bydd angen cynnydd sylweddol yn y nifer o athrawon sydd ar gael i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i gyrraedd nod o gynhyrchu 1000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Mwy na Geiriau(gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol 2012)

 

Mae angen denu a hyfforddi llawer mwy o siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu gweithredu’r strategaeth.

 

Mentrau Newydd

 

Credwn drwy ddatblygu rhaglenni uchelgeisiol i greu mentrau newydd sydd yn gallu darparu gwasanaethau Cymraeg gallwn ddefnyddio un o brif nodweddion yr ardal i’w mantais. Gallwn weld esiamplau o’r fath fel cwmni Galw ym Mhorthmadog sydd yn darparu gwasanaeth hollol ddwyieithog i’w cwsmeriaid ac yn darparu gwasanaethau ar ran Traveline Cymru ayyb.

 

Ar hyn o bryd mae’r Mentrau Iaith a FourCymru, drwy nawdd y Cynllun Datblygu Wledig ar fin dechrau ymchwilio i weld pa fath o clystyrau sydd modd ei sefydlu ar draws y wlad.

 

Y Mesur Iaith Newydd

 

Pe bai cynnwys  rhai adrannau o’r Sector Preifat o fewn y mesur newydd (Banciau ac Archfarchnadoedd e.e.) buasai rhaid iddynt  ddarparu gwell gwasanaeth yn y Gymraeg, sydd ond yn deg i gwsmeriaid iaith Gymraeg. Ond sgil effaith pwysig arall o hyn buasai rhaid i’r cwmnïau yma wedyn prynu mewn mwy o wasanaethau arbenigol o Gymru i ddarparu'r gwasanaethau yma. Sgil effaith hyn buasai creu mwy o swyddi yma yng Nghymru.

 

5. Casgliad

 

Credwn gall y Gymraeg cyfrannu tu ag at strategaeth economaidd a chynllun cyflogadwyedd. Yn wir yn ddiweddar datganwyd fod yr Iaith Basgeg yn cyfrannu 4.2% i GDP Wlad y Basg (Llywodraeth Gwlad y Basg 2016). Mae rhaid i’r Gymraeg ddod yn rhan gynyddol o fywyd economaidd os yw am oroesi a datblygu. 

 

Hefyd mae angen cysoni'r buddsoddiad ym myd addysg Cymraeg efo'r un buddsoddiad yn y byd gwaith er mwyn creu dilyniant teilwng. Buaswn yn croesawi pe tai y sector trydyddol (Colegau Cymru) yn cael buddsoddiad tebyg i’r sector uwch (Y Coleg Cymraeg).

 

Felly credwn fod unrhyw strategaeth angen cymerid yr egwyddorion o cyplysu sgiliau efo swyddi ac hyfforddiant yn ogystal â galluogi partneriaid cymunedol fel y Mentrau Iaith i weithredu rhaglenni uchelgeisiol o greu mentrau cymdeithasol newydd i ddarparu gwasanaethau a chreu swyddi.